Nancy OlwenGRIFFITHSDymuna Brenda, Marian, Wendy a'r teulu i gyd ddiolch o galon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith, nain a hen-nain annwyl. Diolch am yr ymweliadau, galwadau ffôn, yr holl gardiau a'r rhoddion hael a dderbyniwyd i'w rhannu rhwng Ysbyty Walton ac Apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r Parchedig Mererid Mair Williams am ei gwasanaeth, i'r organydd Mr Ieuan Jones, ac i Lois Ana Parry am ei rhan hithau. Diolch i Gofal Bro am eu gofal arbennig ac i Roberts & Owen am eu trefniadau.
Keep me informed of updates